Yr Amgueddfa 24 awr yw rhith amgueddfa
genedlaethol y DU. Ein nod yw annog
ymwelwyr i fynd allan i weld atyniadau
go iawn o amgylch y wlad a dangos
gweithgareddau cyffrous iddynt ar
hyd a lled y DU, gydol y flwyddyn.
Gallwch chwilota drwy ein prif safle
er mwyn gweld beth sydd ar gynnig
yn y DU fesul lle, dyddiad neu fesul
unrhyw bwnc a ddewisir gennych. Byddwn
yn cynnwys newyddion a hanesion am
arddangosfeydd yn rheolaidd, yn ogystal
â llwybrau rhyngrwyd a gynhyrchir
mewn partneriaeth ag amgueddfeydd
ac orielau.
Beth am awgrymu sefydliad i'w
roi ar ein cronfa ddata? Cysylltwch
â ni yn helen@24hourmuseum.org.uk
Fe roddir blaenoriaeth i sefydliadau
di-elw ond o dro i dro, byddwn yn
cynnwys sefydliadau masnachol hefyd.
Cafodd
y safle ei lansio gyntaf ym Mai 1999,
yn ôl trefniadau cyd-reoli,
gan mda (Cymdeithas Dogfennaeth Amgueddfeydd)
yng Nghaergrawnt a'r Ymgyrch
dros Amgueddfeydd yn Llundain. Bellach
mae ein canolfan yn Brighton, ac yn
Ebrill 2001 cawsom ein hailsefydlu
yn sefydliad annibynnol. Erbyn hyn
rydym yn elusen gofrestredig, a ariennir
gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau
a Chwaraeon trwy gyfrwng Resource.
Bydd partneriaethau fel sefydliadau
eraill megis Sefydliad Clare a'r
Post Brenhinol hefyd yn rhoi cyllid
i'n prosiectau ni.
Yn 2001, y ni oedd enillwyr Gwobr
Cyfryngau BT/The New Statesman am
y wefan addysg orau.
Tîm
Mae'r
Amgueddfa 24 Awr yn cyflogi tri
gweithiwr llawn amser a grŵp
bach, brwdfrydig o wirfoddolwyr a
phobl sy'n gweithio ar eu liwt
eu hunain.
Jane Finnis
Cyfarwyddwr
Datblygu'r
Amgueddfa 24 awr:
Fe ymunodd Jane
â'r Amgueddfa
24 awr ar ôl
gweithio i Lighthouse
Arts and Training
yn Brighton, fel
Cyfarwyddwr a ddatblygodd
y cwmni yn un o'r
sefydliadau cyfryngau
newydd, mwyaf arwyddocaol
yn y wlad. Ar ôl
gadael Coleg Polytechnig
Brighton gyda Gradd
yn y Celfyddydau
yn 1987, dechreuodd
weithio fel cynhyrchydd
a chyfarwyddwr fideo
a theledu oedd yn
gweithio ar ei liwt
ei hun.
Jon Pratty
Golygydd
yr Amgueddfa 24
awr: Gradd yn
y Celfyddydau Cain
sydd gan Jon; roedd
yn un o aelodau
cyntaf y Red Herring
Studios yn Brighton,
a bu'n gweithio
mewn cwmnïau
ymgynghoriaeth dylunio
yn Llundain fel
arbenigwr cyfathrebu
a ffotograffydd.
Wedi iddo gael ei
ailhyfforddi i fod
yn newyddiadurwr,
bu'n gweithio'n
rheolaidd i'r
Telegraph a'r
Sunday Times, yn
ysgrifennu ysgrifau
nodwedd a newyddion
am bynciau amrywiol
fel technoleg, y
rhwyd a diwylliant
.
Helen Wade
Cydlynydd
Prosiectau'r
Amgueddfa 24 Awr:
Bu Helen ym Mhrifysgol
Sussex lle graddiodd
mewn Hanes Celfyddyd.
Cyn ymuno â'r
Amgueddfa 24 Awr,
bu'n Bennaeth
gwerthiant yn y
DU yng nghwmni King
a McGaw, y cyhoeddwyr
celfyddyd, ac yno
roedd hi'n
gweithio'n
glos â llawer
o amgueddfeydd mwyaf
y DU. Ar ôl
graddio, gweithiodd
Helen fel gwirfoddolwr
yn Amgueddfa Brighton
a hi oedd rheolwr
y digwyddiadau codi
arian ar gyfer Oxfam.