Beth yw llwybr rhyngrwyd?
Ysgrifau nodwedd trylwyr a ysgrifennwyd
yn arbennig i dynnu sylw at yr
amgueddfeydd, orielau a'r llwybrau
treftadaeth gorau dyna beth yw
gwe-lwybrau yr Amgueddfa 24 awr.
Ar ein llwybrau Cymru mae digonedd o
luniau a llawer o gysylltau gwe
i'ch helpu chi i wneud ymchwil ar
eich ymweliad, yn ogystal â
manylion cyswllt y gellir dod o hyd
iddynt yn rhwydd.
Rydym yn gobeithio y bydd y
llwybrau'n rhoi digonedd o syniadau
i chi ynglŷn â phethau
i'w gwneud a mannau i'w
gweld. Gellir dilyn rhai ohonynt mewn un
diwrnod yn unig efallai y bydd
angen mwy o amser ar gyfer eraill.
Mae'r llwybr hwn yn crwydro rhwng adnoddau naturiol bendigedig mynyddoedd Cymru ac arfordir gwyllt Môr Iwerddon; dilynwch y llwybr hwn a chewch ddigon o gyfle i ymweld ag amrywiaeth helaeth o amgueddfeydd, orielau a safleoedd treftadaeth cysylltiedig.
Dewch i deithio drwy amser wrth i chi deithio drwy berfeddion cefn gwlad Cymru. Cewch brofi bywyd fel ag y cafodd ei fyw yn yr ail ganrif ar bymtheg, yr oes ddiwydiannol a chan y "bonedd a'u gwreng": cewch brofi taith ar draws y Gymru wledig fel ag y gwnaeth ein cyndeidiau.
Dewch i gael golwg ar y trysorau o waith llaw dyn ac adnoddau naturiol cyfoethog yr ardal arfordirol hynod ddiddorol hon. O Abertawe, mae'r llwybr yn gadael yr arfordir ym Mhenrhyn Gwŷr hyfryd ac Aber Llwchwr, ac yn mynd i ganol y tir drwy Lanelli, Caerfyrddin a Dinbych-y-pysgod.
Os oes gennych chi syniad gwych ar gyfer llwybr
amgueddfa neu oriel yng Nghymru, byddwch cystal
â rhoi gwybod i ni yn
editor@24hourmuseum.org.uk
byddem yn hynod falch o osod rhagor
o lwybrau Cymru.