24 Hour Museum  
 
Fersiwn Testun
Tachwedd 22 2008
Chwiliwch drwy'r safle hwn
Hafan y DU
Hafan Cymru
Llwybrau Cymru
Amdanom Ni
 
TEITHIO DRWY AMSER
Cafodd hanes y llwybr ei ysgrifennu a'i ymchwilio gan Gyngor Amgueddfeydd Cymru.
Y delweddau drwy garedigrwydd yr amgueddfa.
06/05/1999

WRECSAM (Regent Street)

Bydd Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn eich dwyn yn ôl i'r gorffennol. Mae digonedd i'w weld ac i'w wneud yn yr Amgueddfa, gan gynnwys yr Adran Loeren flaengar.

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Adeiladau'r Sir, Stryd y Rhaglyw, Wrecsam, LL11 1RB, Wrecsam, Cymru

Mae tŵr Eglwys y Plwyf St Giles yn tremio dros Wrecsam, ac fe'i hystyrir yn gyffredinol fel yr enghraifft orau o bensaernïaeth Gothig yng Ngogledd Cymru. Ymfudodd Elihu Yale, a gladdwyd ym mynwent Eglwys St Giles, i America o Lanarmon-yn Iâl, a chodwyd y Brifysgol enwog ar ei ôl. Mae atgynhyrchiad o dŵr St Giles sy'n 136 troedfedd o uchder wedi ei osod i mewn i Brifysgol Iâl yn America.

Tra yn yr ardal cofiwch ymweld â: Gwaith Haearn a Chanolfan Treftadaeth y Bers, a'r Chwareli Plwm a Pharc Gwledig Minera.

Yn y Bers, dwy filltir i'r gorllewin o Wrecsam, mae'r ffwrneisi a'r ffowndrïau a gynhyrchodd ganonau ar gyfer Rhyfel Annibyniaeth America a silindrau ar gyfer peiriannau ager James Watt ar waith unwaith eto. Mae'r amgueddfa hefyd yn adrodd hanes James 'Iron Mad' Wilkinson a'i Waith Haearn enwog yn y 18ed ganrif.

Canolfan Treftadaeth a Gwaith Haearn y Bers
Y Bers, Wrecsam, LL14 4HT, Wrecsam, Cymru

Ym Minera, bedair milltir i'r gorllewin, bu gweithfeydd plwm yma ers y Canol Oesoedd o leiaf. Mae gweddillion y gwaith prosesu plwm o'r 18ed ganrif a'r 19ed ganrif, tŷ peiriant trostlath, peiriant winio a chwt bwyler wedi cael eu cloddio, eu hadfer ac maent yn cael eu harddangos. Mae Canolfan Dehongli yn rhoi braslun o hanes y safle. Mae parc gwledig yn amgylchynu'r gweithfeydd plwm gyda theithiau llawn golygfeydd a lle picnic. Mae'r lleoliad ar agor ar benwythnosau o fis Mai hyd at ddechrau mis Medi, ond dylech gysylltu â'r lle am ragor o fanylion.

Dychwelwch i Wrecsam ar gyfer Erddig (arwyddion yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) gan gymryd ffordd yr A483 2 filltir i'r de

Pyllau Plwm Y Mwynglawdd
Ffordd y Wern, Y Mwynglawdd, Wrecsam, LL11 3DU, Wrecsam, Cymru

ERDDIG

Byddwch yn camu'n ôl i'r 17ed ganrif a'r 18ed ganrif yn Erddig yn un o'r safleoedd mwyaf hynod ym Mhrydain sy'n eiddo i'rYmddiriedolaeth Genedlaethol, yn bennaf oherwydd y berthynas a oedd yn bodoli rhwng teulu'r tŷ a'u gweision. Mae teithiau "O'r Pantri i'r Parlwr" ar gael er mwyn rhoi cipolwg o fywyd gwas mewn tŷ gwledig yn y 18ed ganrif a'r 19ed ganrif. Ewch i grwydro'r Ystafelloedd Swyddogol, ystafelloedd cysgu y gweision, yr adeiladau allanol, yr ardd ffurfiol lle gellir gweld y Casgliad Eiddew Cenedlaethol, a'r parc gwledig.

Ailymunwch â ffordd yr A483 i'r de ar gyfer yr A539 i Langollen

Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Erddig
Wrecsam, LL13 0YT, Wrecsam, Cymru

LLANGOLLEN

Teithiwch yn ôl i gyfnod y Rhaglywiaeth ym Mhlas Newydd, cartref Boneddigesau Llangollen rhwng 1780 a 1829. Roedd mawrion y cyfnod yn ymweld yn aml â Boneddigesau Llangollen, gan gynnwys y Dug Wellington, William Wordsworth a Syr Walter Scott.

Gadawodd Thomas Telford, y peiriannydd sifil o'r 18ed ganrif, ei farc o gwmpas Llangollen gyda'r traphontydd dŵr godidog ym Mhontcysyllte a'r Waun, ar Gamlas Llangollen.

Plas Newydd
Stryd y Bryn, Llangollen, LL20 8AW, Sir Ddinbych, Cymru

Dewch i fwynhau'r golygfeydd bendigedig ym Mro Llangollen ar y Lein Fach. Lleolir gorsaf Llangollen mewn llecyn deniadol ger y bont dros Afon Dyfrdwy; felly ewch am siwrnai hamddenol mewn trên ager i orsaf a adferwyd yng Ngharrog sydd mewn lleoliad prydferth.

Rheilffordd Llangollen ccc, Yr Orsaf, Abbey Road, Llangollen LL20 8SN Ffôn: 01978 860979 (Ffoniwch 01978 860951 i gael amserlen ar lafar)

Dewis arall yw mynd am daith hamddenol mewn ceffyl a chert ar hyd y gamlas, neu deithio mewn cwch cul, sef y 'Thomas Telford', ar draws Traphont Pontcysyllte, sy'n codi 126 o droedfeddi uwchben Afon Dyfrdwy.

Canolfan Gwch Ceffyl a Chert, Y Lanfa, Llangollen Ffôn: 01978 869702

Cewch gyfle yn Llangollen i deithio, ac nid yn ôl i'r gorffennol yn unig, ond hefyd rhwng gwahanol ddiwylliannau, heb hyd yn oed adael y dref! Mae'r Eisteddfod Ryngwladol fyd-enwog Llangollen a gynhelir ym mis Gorffennaf yn denu corau, cerddorion, cantorion gwerin a dawnswyr o bob cyfandir. Er mwyn cael rhaglen lawn o'r digwyddiadau a manylion y dyddiadau, cysylltwch â Swyddfa'r Eisteddfod, Llangollen LL20 8NG Ffôn: 01978 861501/860236.

Cymerwch ffordd yr A5 i'r gorllewin sy'n arwain at y Waun, 8 milltir i'r de o Wrecsam.

Datblygwyd cysylltiadau hanfodol y rheilffordd a'r gamlas â'r Waun yn yr 19ed ganrif, drwy'r ffordd a daeth yn arhosfan i deithwyr y goets fawr ar ffordd y post rhwng Llundain a Chaergybi. Ym 1801, cyrhaeddwyd y Waun gan gangen Llangollen o gamlas Undeb Sir Amwythig.

Mae'r tyrrau drwm crwn yng Nghastell y Waun (yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol), a godwyd 700 mlynedd yn ôl, yn cynnig golygfeydd deniadol dros y gerddi ffurfiol a'r parcdiroedd hanesyddol. Dewch i mewn i'r Ystafelloedd Swyddogol urddasol, gyda'u gwaith plastr coeth, eu tapestrïau a'u portreadau helaeth. Dylech gysylltu âr Ymddiriedolaeth i gael gwybod a yw ar agor oherwydd cyfyngiadau Clwy Traed a'r Genau.

Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell y Waun
Castell y Waun, Y Waun, LL14 5AF, Wrecsam, Cymru

Croeswch y ffin o Gymru er mwyn crwydro tref hanesyddol Croesoswallt yn Sir Amwythig. Croesoswallt oedd pencadlys Cwmni Rheilffordd y Cambrian hyd nes iddo ymuno â Chwmni Rheilffordd Great Western ym 1922.

Lleolir Rheilffordd Gul Croesoswallt yn Amgueddfa Trafnidiaeth y Cambrian yng nghanol Croesoswallt. Yma ceir peiriannau ager, coetsis i deithwyr a wagenni nwyddau, yn ogystal ag arddangosfa barhaol o hen feiciau, beiciau modur a phosteri a phethau cofiadwy cysylltiedig. Mae cyfle i deithio ar y rheilffordd ar ddyddiau penodol. Cynhelir dyddiau ager ar ddydd Sul olaf y mis rhwng mis Ebrill a mis Medi.

Oswestry Transport Museum
SY11 1RE, England

Ailymunwch â ffordd yr A483 wedi gadael Croesoswallt.

Croeswch y ffin yn ôl i Gymru ac ewch i'r de i gyrraedd pen y daith yn y Trallwng gan gadw golwg am Gamlas Mynwy sy'n rhedeg yn gyfochrog â'r A483.

Dewch i ymweld â Chanolfan Gamlas ac Amgueddfa Powysland a Trefynwy sydd wedi ennill gwobrau. Cewch gyfle i brofi naws y gorffennol yn Sir Trefaldwyn o gyfnod helwyr Oes y Cerrig i fywyd yn nyddiau oes Fictoria.

Amgueddfa Powysland
Cei'r Gamlas, Y Trallwng, SY21 7AQ, Powys, Cymru

Wedi mwynhau ymweliad â'r amgueddfa, beth am fynd ar daith mewn cwch camlas o'r lanfa wrth ochr yr Amgueddfa? Am ragor o fanylion, cysylltwch â Montgomery Canal Cruises, Severn Street Wharf, Y Trallwng SY21 7AQ Ffôn: 01938 553271

Safleoedd eraill i ymweld â nhw ger Y Trallwng:

Amgueddfa Cerfluniau Andrew Logan

Amgueddfa Cerflunwaith Andrew Logan
Berriw, Y Trallwng, SY21 8AH, Powys, Cymru

Mae Rheilffordd Gul Y Trallwng a Llanfair yn rheilffordd gul wyth milltir o hyd hyfryd sy'n rhedeg ar hyd tir bryniog ar y ffin rhwng y Trallwng a phen draw'r lein yn Llanfair Caereinion. Mae'r trên yn un o'r 'Great Little Trains of Wales' gwreiddiol, ac nid yw wedi newid fawr ddim ers 100 mlynedd, gyda nifer o beiriannu ager a cherbydau gwreiddiol. Mae'r gwasanaethau trên yn weithredol rhwng y Pasg a mis Hydref. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Rheilffordd Gul y Trallwng a Llanfair, Yr Orsaf, Llanfair Caereinion SY21 OSF Ffôn: 01938 810441

Llongyfarchiadau! Rydych wedi cyrraedd pen eich taith yn llwyddiannus. Rydym yn gobeithio y byddwch yn teithio ar hyd y llwybr hwn eto ac yn ymweld â'r mannau na chawsoch gyfle i'w gweld y tro cyntaf yn ogystal ag ymweld â'ch hoff leoedd eto.

Amgueddfa Bwrdeistref Sirol Wrecsam
 

Adeiladau'r Sir, Stryd y Rhaglyw, Wrecsam, LL11 1RB, Wrecsam, Cymru
Open: Llun-Gwener 1030-1700 Sad 1030-1500
Closed: Sundays

Canolfan Treftadaeth a Gwaith Haearn y Bers
 

Y Bers, Wrecsam, LL14 4HT, Wrecsam, Cymru
Open: Haf Llun - Gwener 1000 - 1630 Sad - Sul 1200 - 1630 Gaeaf Llun - Gwener 1000 - 1530 Sad - Sul 1200 - 1530
Closed: Bersham Ironworks is open to organised groups between April and October Bersham Heritage Centre is closed between November - March.

Pyllau Plwm Y Mwynglawdd
 

Ffordd y Wern, Y Mwynglawdd, Wrecsam, LL11 3DU, Wrecsam, Cymru
Open: March 29th - April 16th, May 4th - 7th, May 24th - June 4th and July 20th - September 3rd Open Thurs, Fri, Sat, Sun & Mon. 12noon - 4.30pm Also open weekends only between June 9th - July 15th Group visits by appointment all year round
Closed: Closed Tuesday & Wednesday.

Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Erddig
 

Wrecsam, LL13 0YT, Wrecsam, Cymru
Open: 21 Mawrth-31 Hydref Llun-Mercher Sad-Sul 1200-1700 Mynediad olaf 1600 Gerddi 1100-1800

Plas Newydd
 

Stryd y Bryn, Llangollen, LL20 8AW, Sir Ddinbych, Cymru
T: 01978 862834
Open: 1 Ebrill-31 Hydref 1000-1700 Mynediad olaf 1615 Ar gau pob amser arall

Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Castell y Waun
 

Castell y Waun, Y Waun, LL14 5AF, Wrecsam, Cymru
T: 01691 777701

Oswestry Transport Museum
 

SY11 1RE, England
Open: Mon-Sat 1000-1600 Open Bank holidays 31 October-1 March Mon-Sat 1000-1500

Amgueddfa Powysland
 

Cei'r Gamlas, Y Trallwng, SY21 7AQ, Powys, Cymru
Open: Llun-Mawrth Iau-Gwener 1100-1300 1400-1700 Sad-Sul 1000-1300 1400-1700 Mercher-Ar Gau
Closed: Wed

Amgueddfa Cerflunwaith Andrew Logan
 

Berriw, Y Trallwng, SY21 8AH, Powys, Cymru
Open: Easter Period Fri 2nd April - Monday 5th April 1200-1800 Thurs 1st May - Fri 31st October Wed - Sun 1200-1800 Sat 1st November - Sun 21st December Sat - Sun 1200-1600 MUSEUM WILL OPEN ANY OTHER TIME BY APPOINTMENT
Closed: January 1st - Fri 18th April Mon 21st April - Thurs 1st May Thurs 1st May - Fri 31st Oct Mon / Tues Christmas & New Year