24 Hour Museum  
 
Fersiwn Testun
Tachwedd 22 2008
Chwiliwch drwy'r safle hwn
Hafan y DU
Hafan Cymru
Llwybrau Cymru
Amdanom Ni
 
TRYSORAU ABERTAWE A BAEAU CAERFYRDDIN
Cafodd hanes y llwybr ei ysgrifennu a'i ymchwilio gan Gyngor Amgueddfeydd Cymru.
Images courtesy of the museums.
06/05/1999

ABERTAWE (VICTORIA ROAD)

Amgueddfa Abertawe
Tra'n ymweld â'r amgueddfa ewch i weld yr arddangosfa o'r Mymi o'r Aifft a enillodd wobrau a'r project cadwraeth a hefyd cymerwch olwg ar y 'Cabinet o Ryfeddodau'.

Amgueddfa Abertawe
Sgwâr yr Amgueddfa, Ffordd Buddug, Yr Ardal Morol, Abertawe, SA1 1SN, Abertawe, Cymru

Ymhlith lleoedd pwysig eraill i ymweld â nhw yn Abertawe mae:

Yr Amgueddfa Arforol a Diwydiannol

Amgueddfa Diwydiant a Morwrol Abertawe
Sgwâr yr Amgueddfa, Yr Adal Morol, Abertawe, SA1 1SN, Abertawe, Cymru

Oriel Gelf Glynn Vivian

Oriel Gelf Glyn Vivian
Ffordd Alexandra, Abertawe, SA1 5DZ, Abertawe, Cymru

Canolfan yr Aifft (yn cynnwys y casgliad trawiadol gan Wellcome mewn lleoliad pwrpasol) a Chanolfan Gelfyddydau Taliesin, Prifysgol Cymru, Abertawe; Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP Ffôn: 01792 295960

Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru Abertawe Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, Abertawe, Cymru

Canolfan Dylan Thomas (sy'n cynnwys deunydd gwreiddiol ac unigryw sy'n gysylltiedig â'r awdur) Somerset Place, Maritime Quarter, Abertawe Ffôn: 01792 463 980

Plantasia (profiad tŷ gwydr yn Abertawe), Canolfan Parc Tawe, Abertawe Ffôn: 01792 474555

Beth am feicio neu gerdded ar hyd Bae Abertawe o'r Maritime Quarter i Bier y Mwmbwls cyn gadael Abertawe?

Dilynwch yr A484 allan o Abertawe i Lanelli. Byddwch yn mynd heibio'r datblygiad arfaethedig i greu Llwybr Arfordirol y Mileniwm gerllaw Aber y Llwchwr.

Mae cyfle i chi ymweld ag Ymddiriedolaeth Adar Hela a Chorstir ar y ffordd, sy'n filltir i'r dwyrain o Lanelli. Dilynwch arwyddion yr hwyaid brown i ddod o hyd iddi! Yn y fan hon gallwch grwydro drwy diroedd a dirluniwyd ymysg cannoedd o hwyaid, gwyddau ac elyrch dof, yn ogystal â'u gwylio o guddfannau o'r neilltu neu o'r prif adeilad lle ceir siop a chyfleusterau eraill.

Ceir cae chwarae awyr agored, llwybrau i'w dilyn a Lle Crefftau'r Corstir. Ymddiriedolaeth Adar Hela a Chorsdir, Llanelli, Ffôn: 01554 741087

O.N Gwnewch ymholiadau rhag ofn bod cyfyngiadau Clwy Traed a'r Genau yma.

LLANELLI

Cyfle i grwydro gorffennol Llanelli yn hen blasdy Parc Howard, adeilad hanesyddol a leolir mewn parc dinesig traddodiadol hyfryd a gedwir yn dda. Ymhlith yr arddangosfeydd parhaol yn yr amgueddfa mae casgliad rhagorol o Grochenwaith Llanelli a darluniau lleol.

Ewch ymlaen i'r gorllewin ar ffordd yr A484 drwy Barc Gwledig Pem-bre i Gydweli.

Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard
Ffordd Felinfoel, Llanelli, SA15 3LJ, Sir Caerfyrddin, Cymru

CYDWELI

Mae Castell Cydweli (sydd yng ngofal CADW) yn gronicl mewn carreg o esblygiad pensaernïaeth filwrol yr Oesoedd Canol. Mae'r hanes yn ymestyn dros bedair canrif, o'i ddechreuad fel cledrfur syml a godwyd gan y Normaniaid ym 1106 i gastell consentrig pwerus gyda 'muriau o fewn muriau' a thyrrau corneli crwn sy'n hynod debyg i'r cestyll a welwyd ar y croesgadau.

Castell Cydweli, Cydweli Ffôn: 01554 890104.

Ewch i Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli i weld sut y gwnaed plât tun â llaw am fwy na 200 mlynedd yn y gwaith plât tun gwreiddiol, wedi ei leoli mewn ardal wledig hardd. Mae'r arddangosion eraill yn adlewyrchu gorffennol diwydiannol Sir Gaerfyrddin. Lleolir yr amgueddfa ar yr ochr ddwyreiniol i Gaerfyrddin: ymunwch â ffordd osgoi yr A484.

Ewch ymlaen i'r gogledd ar yr A484 i Gaerfyrddin.

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
Broadford, Cydweli, SA17 4LW, Sir Gaerfyrddin, Cymru

CAERFYRDDIN

Ewch i ymweld â Chanolfan Treftadaeth Caerfyrddin, datblygiad newydd cyffrous a leolir ar lannau'r afon Tywi sy'n olrhain hanes Caerfyrddin o AD75 hyd at heddiw. Mae'n cynnwys arddangosfeydd dehongliadol, a chyflwyniadau fideo amlgyfryngol.

Canolfan Treftadaeth Caerfyrddin, Y Cei, Caerfyrddin SA31 3AN Ffôn: 01267 223788

Yn y dref, mae Oriel Myrddin yn oriel gelf o grefftau cyfoes a rhanbarthol gydag arddangosfeydd crefftau a chelfyddydau sy'n newid, anrhegion, cardiau a chylchgronau.

Oriel Myrddin, Heol yr Eglwys, Caerfyrddin, Ffôn: 01267 222775

Cymerwch drên ager i mewn i le picnic coediog ar lan yr afon o ochr Aberteifi i Gaerfyrddin.

Rheilffordd Ager Gwili, Bronwydd Arms, Caerfyrddin SA33 6HT Ffôn: 01267 230666 (fe'i lleolir ychydig oddi ar ffordd yr A484 rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi)

Mae Amgueddfa SirCaerfyrddin, Abergwili (tua milltir i'r dwyrain o Gaerfyrddin, ar yr A40) yn cynnwys casgliadau parhaol sy'n portreadu gorffennol Sir Gaerfyrddin; gan gynnwys arddangosfeydd ar Aur Rhufeinig, Dodrefn Cymreig, ystafell ysgol a bywyd ar fferm fach hefyd. Gall ymwelwyr weld y capel, heddychlon, preifat o hyd sydd wedi ei leoli ym Mhalas gwreiddiol Esgobion Tyddewi. Ewch am dro o gwmpas y parcdir hyfryd neu cymerwch bicnic yno, ac ewch i weld Llyn yr Archesgob.

Dychwelwch i Gaerfyrddin i'r gorllewin ar yr A40, yna cymerwch y ffordd i'r de i Sanclêr a dilynwch yr A4066 i Dalacharn.

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG, Sir Gaerfyrddin, Cymru

TALACHARN

Ganed y bardd a'r awdur Dylan Thomas (1914-1953) yn Abertawe ond roedd gwreiddiau ei deulu yn Sir Gaerfyrddin. Bu'n byw yn y tŷ cychod yn Nhalacharn am bedair blynedd olaf ei fywyd gan ysgrifennu nifer o weithiau enwog yno, yn cynnwys 'Dan y Wenallt'. Canolfan dreftadaeth yw Tŷ Cwch Dylan Thomas sy'n coffáu'r bardd a'i grefft. Mae'r Tŷ Cwch godidog, sydd wedi'i leoli ar glogwyn yn edrych dros Aber godidog yr afon Taf ('heron priested', chwedl Dylan Thomas), yn lle hynod ddiddorol ac yn cynnwys pethau cofiadwy, dehongliad, siop lyfrau ac ystafell de. Cadarnhaodd Caitlin, ei weddw, bod y Llareggub chwedlonol sy'n ymddangos yn 'Dan y Wenallt' wedi ei seilio ar dref fach Talacharn.

The Boathouse, Dylan's Walk, Talacharn Ffôn: 01994 427420

Gan eich bod yn yr ardal, ewch i ymweld ag adfeilion Castell Talacharn gyda'i olygfeydd o'r Mers.

Dilynwch ffordd yr A4086 i'r gorllewin i Bentywyn ar yr arfordir.

Dewch i gael gwybod mwy am "Sands of Speed" Pentywyn mewn adeilad trawiadol sy'n edrych dros y traeth: yma yn ystod yr haf cewch weld 'Babs' sef car Parry Thomas sydd wedi ei adfer a dorrodd recordiau cyflymder ynghyd â cherbydau hanesyddol eraill.

Dychwelwch drwy ddilyn ffordd y B4314 i Red Roses i ymuno â'r A477 i'r gorllewin ar y ffordd i Ddinbych-y-pysgod.

DINBYCH-Y-PYSGOD

Dewch i ymdeimlo â chyfaredd hen dref furiedig Dinbych-y-pysgod, gyda'i chastell, ei chaffis a'i siopau, yn ogystal â cherdded ar hyd y traeth tywodlyd. Dewch i grwydro o amgylch yr harbwr gyda'i olygfeydd bendigedig a chael eich temtio i fynd ar daith gyffrous mewn cwch, a gwylio dolffiniaid a morloi.

Gerllaw ar Fryn y Castell sy'n cynnig mwy o olygfeydd panoramig, mae Amgueddfa ac Oriel Gelf Dinbych-y-pysgod yn cynnwys trysorfa o arddangosfeydd ac atyniadau newydd, ac mae lleoliad yr oriel wedi ei ymestyn a'i uwchraddio.

Amgueddfa ac Oriel Dinbych-y-pysgod
Bryn y Castell, Dinbych-y-pysgod, SA70 7BP, Sir Benfro, Cymru

Adeilad diddorol arall y gellir ymweld ag ef yw'r Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd, sydd o dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'r annedd hon sy'n dyddio o ddiwedd y 15ed ganrif, yn cynnwys gweddillion ffresgo mewnol ac fe'i dodrefnir fel y byddai masnachwr llwyddiannus a'i deulu yn byw yng nghyfnod y Tuduriaid wedi ei ddodrefnu.

Tŷ'r Masnachwr Tuduraidd, Stryd y Cei, Dinbych-y-pysgod SA70 7BX Ffôn: 01834 842279

Llongyfarchiadau! Rydych wedi cyrraedd pen eich taith yn llwyddiannus. Rydym yn gobeithio y byddwch yn teithio ar hyd y llwybr hwn eto ac yn ymweld â'r mannau na chawsoch gyfle i'w gweld y tro cyntaf yn ogystal ag ymweld â'ch hoff leoedd eto.

Amgueddfa Abertawe
 

Sgwâr yr Amgueddfa, Ffordd Buddug, Yr Ardal Morol, Abertawe, SA1 1SN, Abertawe, Cymru
Open: Mawrth-Sul 1000-1700 Mynediad olaf 1645 Ar agor ar Wyl y Banc Ar Gau Llun Amseroedd eraill trwy apwyntiad

Amgueddfa Diwydiant a Morwrol Abertawe
 

Sgwâr yr Amgueddfa, Yr Adal Morol, Abertawe, SA1 1SN, Abertawe, Cymru
Open: Mawrth-Sul 1000-1700 Ar Gau Llun ac eithrio gwyliau'r banc
Closed: The Swansea Maritime and Industrial Museum was closed to the public in 2002 and will be replaced by the National Waterfront Museum which opens in Summer 2005. The website for the new museum is: www.waterfrontmuseum.co.uk

Oriel Gelf Glyn Vivian
 

Ffordd Alexandra, Abertawe, SA1 5DZ, Abertawe, Cymru
Open: Mawrth-Sul 1000-1700 Ar Gau Llun ac eithrio gwyliau'r banc
Closed: Closed Mon exc bank holidays

Prifysgol Cymru, Abertawe
 

Prifysgol Cymru Abertawe Parc Singleton, Abertawe, SA2 8PP, Abertawe, Cymru
Open: Mawrth-Sad 1000-1600 Sul-Ar Gau Dydd Llun & Gwyliau Banc
Closed: Sun-Mon & Bank holidays Closed

Amgueddfa ac Oriel Gelf Parc Howard
 

Ffordd Felinfoel, Llanelli, SA15 3LJ, Sir Caerfyrddin, Cymru
Open: Ebrill-Medi Llun-Gwener 10-6 Sad & Sul 2-6 Tach-Mawrth Llun-Gwener 11-1 Sad & Sul 2-4
Closed: Christmas Day, Boxing Day and New Year's Day

Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli
 

Broadford, Cydweli, SA17 4LW, Sir Gaerfyrddin, Cymru
Open: Pob dydd 1000-1700 3-5 Mai 1000-1630 Sad-Sul 1400-1600 Mai-Awst Llun-Gwen 1000-1700 Sad-Sul 1400-1600 Ar Gau 1 Medi-28 Mawrth

Amgueddfa Sir Gaerfyrddin
 

Abergwili, Caerfyrddin, SA31 2JG, Sir Gaerfyrddin, Cymru
Open: Llun-Sad 10.00-1630
Closed: Christmas - New Year

Museum of Speed, Pendine
 

SA33 4NY, Cymru
T: 01994 453488
Open: Easter Holidays - 30th September Throughout the week 10.00-13.00 and 13.30-17.00
Closed: 1st October until Easter Holidays

Amgueddfa ac Oriel Dinbych-y-pysgod
 

Bryn y Castell, Dinbych-y-pysgod, SA70 7BP, Sir Benfro, Cymru
Open: Pasg-Hydref Pob dydd 1000-1700 Tachwedd-Pasg Llun- 1000-1700
Closed: Closed over the Christmas and New Year period