Amgueddfa 24 Awr
Y porth i fwy na 2,500 o atyniadau amgueddfeydd, orielau a threftadaeth y DU
Osgoi a mynd at lywio
Llwybrau
Rhwng Môr a Mynydd - Porthmadog i Aberystwyth
Cafodd hanes y llwybr ei ysgrifennu a'i ymchwilio gan Gyngor Amgueddfeydd Cymru.
Y delweddau drwy garedigrwydd yr amgueddfa.
06/05/1999
PARC CENEDLAETHOL ERYRI
Mae Rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg o lan y môr ym Mhorthmadog dros 13 milltir i Flaenau Ffestiniog, lle mae llinell y gorwel wedi newid yn sylweddol o ganlyniad i gannoedd o flynyddoedd o chwarelu llechi. O'r fan hon, ar ddiwrnod clir, ac wedi dringo i dir uwch, gellir gweld ehangder godidog mynyddoedd Eryri gyda golygfeydd o Fae Ceredigion o bob tu.
Wrth i'r trên ymlwybro o Borthmadog, mae'r lein yn dringo i fyny drwy Barc Cenedlaethol Eryri gyda golygfeydd drwy Fro Ffestiniog cyn cyrraedd "gwareiddiad" unwaith eto ym Mlaenau Ffestiniog, a'r Ceudwll Llechwedd enwog.
Mae'r trenau'n rhedeg o fis Mawrth i fis Tachwedd. Efallai na fyddwch yn cael gadael y trên yn rhai o'r gorsafoedd ar y lein ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau clwy traed a'r genau.
Ceudwll Llechwedd, Blaenau Ffestiniog, LL41 3NB Ffôn: 01766 830306
Amgueddfa Rheilffordd Ffestiniog
Gorsaf yr Harbwr, Porthmadog, LL49 9NF, Gwynedd, Cymru
PORTHMADOG
Mae'r atyniadau eraill yn nalgylch Porthmadog ar Fae Tremadog yn cynnwys Amgueddfa Goffa Lloyd George y dyfarnwyd gwobrau iddi a Highgate (ei gartref pan yn fachgen) yn Llanystumdwy, ger Cricieth a Chastell Cricieth gyda'i borthdy trawiadol dau dŵr o'r 13ed ganrif ar y trwyn.
Castell Cricieth Rhagor o wybodaeth gan Cadw Ffôn: 02920 500200
Amgueddfa Lloyd George
Llanystumdwy, Criccieth, LL52 0SH, Gwynedd, Cymru
Yn ôl ym Mhorthmadog mae Amgueddfa Arforol Porthmadog ar yr harbwr yn adrodd hanes y porthladd yn ei anterth fel un o'r prif lwybrau ar gyfer allforio llechi yn y 19ed ganrif.
O Borthmadog ewch i'r De ar ffordd yr A496 i'r Bermo, Bae Bermo a mynyddoedd Cadair Idris ac o gwmpas Aber Mawddwy ar ffordd yr A496 i Ddolgellau.
Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Cei Oakley Rhif 1, Yr Harbwr, Porthmadog, LL49 9LU, Gwynedd, Cymru
Y BERMO A DOLGELLAU
Ardal sy'n llawn harddwch naturiol yw hon o atyniadau awyr agored o gwmpas Bae Ceredigion. Peidiwch ag anghofio ymweld ag aber hardd afon Mawddwy a groesir gan bont reilffordd bren hen iawn sy'n cludo llinell Arfordir y Cambrian.
O Ddolgellau ewch i'r de ar yr A493 drwy Tywyn ar gyfer Bae Ceredigion a Machynlleth.
TYWYN
Peidiwch â cholli'r cyfle i ymweld ag Amgueddfa Rheilffordd Gul ryfeddol i weld pob mathau o drenau, wagenni a chreiriau diddorol o fyd y rheilffordd. Yma cewch weld rhai o'r trenau ager hynaf yn y byd sydd ar waith, ac mae lein Talyllyn ei hun yn brofiad pleserus, ac yn llai o lawer o ran maint na Rheilffordd Ffestiniog. Mae'r ddau atyniad yng Ngorsaf y Cei (ar agor rhwng y Pasg a mis Hydref)
Amgueddfa Rheilffyrdd Bach Cul
Gorsaf y Lanfa, Tywyn, LL36 9EY, Gwynedd, Cymru
MACHYNLLETH
Mae hwn yn lle delfrydol fel man cychwyn i grwydro aberoedd y Dyfi a Chanolbarth Cymru yn gyffredinol, ond dylech neilltuo amser i ymweld â chapel Wesleaidd a adnewyddwyd yng nghanol y dref, sydd wedi bod yn ganolbwynt diwylliannol ers 1986. Mae'r Tabernacl, neu Amgueddfa Celf Fodern Cymru yn cynnwys arddangosfeydd sy'n newid, gwyliau celfyddydol a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.
Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Cymru
Y Tabernacl Heol Penrallt, Machynlleth, SY20 8AJ, Powys, Cymru
Gellir ymweld â'r mannau diddorol canlynol ar y ffordd:
Y Ganolfan Dechnoleg Amgen (un o'r eco-ganolfannau gorau yn Ewrop gyda chae antur a drysfa), Machynlleth SY20 9AZ Ffôn: 01654 702400
Dewch i brofi byd y Celtiaid yn Celtica: hanes Cymru mewn sain a llun. Celtica, Y Plas, Machynlleth Ffôn: 01654 702702
O Fachynlleth cymerwch ffordd yr A487 i'r de i orffen y daith yn Aberystwyth.
ABERYSTWYTH
Mae'r dref Brifysgol ddeniadol hon ar yr arfordir yn gartref i nifer o sefydliadau pwysig wedi eu trwytho yn hanes Cymru; ond mae hefyd yn adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw.
Mae'r Brifysgol yn rhedeg Oriel ac Amgueddfa yr Ysgol Gelf sy'n cynnwys casgliadau o gelfyddyd gain, printiau ac eitemau seramig o bwys, gan gynnal nifer o arddangosfeydd sy'n aml yn cynnwys crefftau cyfoes.
Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn gartref i drysorau mawr megis Llyfr Du Caerfyrddin o'r 12ed ganrif - y llawysgrif Gymraeg hynaf sydd wedi goroesi. Yma cewch weld rhaglen brysur o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn yma hefyd, gan gynnwys celf hanesyddol a chelf mwy diweddar yng Nghymru.
Mae Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth yn lleoliad celfyddydol arall na ddylid ei golli, sef canolfan aml-gelfyddydol gydag oriel.
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth SY23 3DE Ffôn: 01970 622882
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Penglais, Aberystwyth SY23 3BU Ffôn: 01970 632800
Ysgol Gelfyddydol, Oriel ac Amgueddfa Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth
Prifysgol Cymru Ysgol Gelf Buarth Mawr, Aberystwyth, SY23 1NE, Ceredigion, Cymru
Mae Amgueddfa Ceredigion, a leolir yn Theatr y Colisewm Edwardaidd gwreiddiol yng nghanol y dref, yn arddangos casgliadau amrywiol sy'n ymwneud â hanes a digwyddiadau'r ardal.
Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth
Ffordd y Môr, Aberystwyth, SY23 2AQ, Ceredigion, Cymru
Llongyfarchiadau! Rydych wedi cyrraedd pen eich taith yn llwyddiannus. Rydym yn gobeithio y byddwch yn teithio ar hyd y llwybr hwn eto ac yn ymweld â'r mannau na chawsoch gyfle i'w gweld y tro cyntaf yn ogystal ag ymweld â'ch hoff leoedd eto.
Clicwch yma i gael rhestr cysylltiadau'r Amgueddfa
Chwiliwch drwy'r safle hwn
Hafan y DU
Hafan Cymru
Llwybrau Cymru
Fersiwn Graffig
Hawlfraint © Amgueddfa 24 Awr
Credwyd bod yr wybodaeth a gyhoeddwyd yma yn gywir pan baratowyd hi. Cafodd y tudalennau Cymraeg eu datblygu gan Gyngor Amgueddfeydd yng Nghymru a'u hariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.